Polisi Gwledig yng Nghymru ar ôl Brecsit

Mae’n bleser cyhoeddi gopi o’n hadroddiad,‘Ar Ôl Brecsit: 10 Cwestiwn Allweddol on ran Polisi Gwledig yng Nghymru’, a gynhyrchwyd gan y Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru / WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r Ganolfan am Economi Wledig ym Mhrifysgol Newcastle.

Mae’r adroddiad yn seiliedig ar weithdy gydag arbenigwyr academaidd ar bolisi gwledig, datblygu gwledig ac amaethyddiaeth a gynhaliwyd yn Aberystwyth yn gynharach eleni. Mae’n nodi’r heriau a’r cyfleoedd allweddol sy’n deillio o Brecsit ar gyfer amaethyddiaeth a chymunedau gwledig yng Nghymru, ac mae’n cynnig cwestiynau y dylid eu hystyried wrth ddatblygu polisi ar gyfer ac ar ôl Brecsit.

Mae’r adroddiad yn un o set o adroddiadau sy’n cwmpasu Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru a gydlynir gan y Ganolfan am Economi Wledig ym Mhrifysgol Newcastle.
Gobeithiwn y bydd yr adroddiad yn ddefnyddiol ac yn llawn gwybodaeth. Mae copïau wedi’u hargraffu ac ar gael ar gais.