Adroddiad Briffio Gwerthuso, Effaith a Chanlyniadau: Beth mae’n ei olygu i ni?

Rydym wedi cyhoeddi adroddiad briffio ar ‘Werthuso Effaith a Chanlyniadau: Beth mae’n ei olygu i ni?’ sy’n adrodd ar drafodaethau gweithdai a drefnwyd ar y cyd gan Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil y Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) sy’n cael ei hariannu gan yr ESRC, a Chyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru (CWVYS). Nod y ddau weithdy a gynhaliwyd fis Mai 2018 oedd ail-gychwyn trafodaeth genedlaethol yng Nghymru am werthuso, effaith a chanlyniadau gwaith ieuenctid yng Nghymru. Diolch yn fawr i’r rhai o’r sector a fynychodd y gweithdai am eu mewnbwn.

Adnoddau eraill:

Cyflwyniad yr Athro Rhys Jones, Prifysgol Aberystwyth; Rhys Jones – Gwerthuso Gwell Better Evaluation

Cyflwyniad Bethia McNeil, Cyfarwyddwr Centre for Youth Impact; Centre for Youth Impact May 2018 – CWVYS presentation